Hafan > Ffurflen Gais
Ffurflen Gais
Mae ceisiadau am gyllid bellach wedi cau.
Trosolwg ac arweiniad
Trwy Raglen Llunio Lleoedd, mae gan bob ardal Gynghrair Bro’r Llynnoedd (yn seiliedig ar wardiau etholiadol) hyd at £5,000 o gyllid cychwynnol ar gael i gefnogi prosiectau cymunedol sy’n cael eu harwain yn lleol.
Rhaid i’r prosiectau yma ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol sydd wedi cael eu nodi trwy fapio asedau ac ymgynghoriad gyda’r gymuned. Gellir defnyddio’r arian naill ai i ariannu prosiect annibynnol neu fel arian cyfatebol i brosiect mwy, cyn belled â bod y prosiect yn cael ei orffen o fewn yr un flwyddyn ariannol.
- Rhaid gorffen pob prosiect cyn 31/12/25
- Dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw , Awst 4ydd 2025
- Yr isafswm y gellir gwneud cais amdano yw £1,000
Am ragor o wybodaeth neu i ofyn am becyn ymgeisio anfonwch e-bost at stacey@medrwnmon.org neu ffôn 01248 724944
